Sales and Purchase Ledger Clerk 13 views

Wales Millennium CentreNi yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg

Teitl y Rôl: Clerc Cyfriflyfr Gwerthiant a Phryniant

Cyflog: £21,840 – £24,201

Oriau Gwaith: 35 awr yr wythnos

Math o Gytundeb: Parhaol

Dyddiad Cau: 07/11/2024

Dyddiad Cyfweld: [I’w Gadarnhau]

Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd a chomedi i ddawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio yn niwylliant Cymru. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.


Amdanom ni/Ein Hadran:

Mae’r tîm Cyllid yn arwain ar faterion yn ymwneud â risg a chyllid yn CMC.Rydym yn datblygu prosesau a gweithdrefnau sy’n galluogi CMC i weithredu’n effeithiol ac yn effeithlon, tra’n lleihau risg.Nod y tîm Cyllid yw darparu gwasanaeth gwerth am arian trwy gynhyrchu gwybodaeth ariannol gywir ac amserol a phartneru busnes cyllid effeithiol.


Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:

Mae rôl y Clerc Cyfriflyfr Gwerthiant a Phryniant yn hanfodol i rediad esmwyth yr Adran Gyllid. Mae rôl yr adran hon yn hynod bwysig gan ei bod yn darparu cymorth busnes i CMC yn ei chyfanrwydd, o’r adrannau Theatr a Rhaglennu Artistig i’r timau Diogelwch a Gweithrediadau Lleoliad.Byddwch yn gyfrifol am dasgau trafodiadol o fewn y tîm cyllid, gan gynnwys:

·Sicrhau bod anfonebau pryniant, treuliau cyflogeion a thrafodion cardiau debyd cyflogeion yn cael eu postio i’r system gyllid mewn modd amserol.

·Sefydlu cyflenwyr newydd ar y system gyllid, cynnal y rhestr o gyflenwyr a ffefrir a chyfathrebu â staff pan fydd angen adnewyddu.

·Codi taliadau BACS ad hoc wrth iddynt godi.

·Prosesu anfonebau gwerthiant yn ôl yr angen, gan gynnwys anfonebu partneriaid yn rheolaidd.


Bydd dyletswyddau eraill yn cynnwys:

·Perfformio rheolaeth credyd, dadansoddi dyledwyr drwg a mynd ar drywydd dyledion yn ôl yr angen.

·Cefnogi’r Cyfrifydd Ariannol i gynnal a gwella systemau a phrosesau.

·Cefnogi’r tîm ar ddiwedd y mis a diwedd y flwyddyn.

·Cyflenwi ar gyfer rolau cyllid eraill pan fo angen ac os yn briodol.

Bydd eich rôl yn amodol ar wiriad DBS.


Gofynion Allweddol:

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar gymhwyster AAT (ystyrir rhai sy’n rhannol gymwys) neu’n gymwys yn ôl profiad. Mae angen sgiliau cyfathrebu da i gysylltu â gweddill y tîm cyllid ac aelodau staff eraill y sefydliad ehangach. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gyfforddus wrth ddefnyddio Microsoft Office, yn enwedig Excel, a bydd ganddynt brofiad o ddefnyddio meddalwedd ariannol.

 

Beth Sydd Ynddo i Chi?

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd âgwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos waith 35 awr, pro rata ar gyfer rhan amser.
  • Cynllun pensiwn sydd yn uwch na’r statudol
  • Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
  • Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
  • Aelodaeth Cymorth Feddygol sy’n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
  • Rhaglenni cymorth i weithwyr sy’n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
  • Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
  • Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
  • CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
  • NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio
  • Wythnos waith 35 awr gan gynnwys polisi gweithio hyblyg gydag amseroedd dechrau a gorffen amrywiol o amgylch ymrwymiadau personol (ac anghenion gweithredol).

Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.

Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o’r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy’n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.

————————————————————————————————————————————————————————————————————————————————————————-

We are Wales Millennium Centre – Fire for the Imagination

Role Title: Purchase and Sales Ledger Clerk

Salary: £21,840 – £24,201

Hours of Work: 35 per week

Type of Contract: Permanent

Closing Date: 07/11/2024

Interview Date: [TBC]

 

WMC is a home for the arts in Wales, and a cauldron of creativity for the nation. We fire imaginations by curating world-class, critically acclaimed touring productions, from musical theatre and comedy to dance, cabaret and an international festival. We kindle emerging talents with fresh, provocative, and popular pieces of our own, rooted in Welsh culture. And we ignite a passion for the arts in young people with life-changing learning experiences and chances to shine in the spotlight.


About WMC/Our Department:

The Finance team leads on matters relating to risk and finance at WMC. We develop processes and procedures that allow WMC to operate effectively and efficiently, whilst minimising risk. The finance team aims to provide a value-added service through the production of accurate and timely financial information and effective finance business partnering.


About the Role and Responsibilities:

The Purchase and Sales Ledger Clerk is a role essential to the seamless running of the Finance Department, particularly important in its role as a business support unit to the whole of Wales Millennium Centre, from the Theatre and Artistic Programming departments to the Security and Venue Operations teams.

You will be responsible for transactional tasks within the finance team, including:

  • Ensuring purchase invoices, employee expenses and employee debit card transactions are posted to the finance system in a timely manner.
  • Setting up new suppliers on the finance system, maintaining the preferred supplier list and communicating with staff when renewals are required.
  • Raising ad-hoc BACS payments as they arise.
  • Processing sales invoices as required, including regular invoicing to partners.

Other duties will include

  • Performing credit control, analysing aged debtors and debt chasing as required.
  • Supporting the team at Month End and Year End.
  • Being a point of cover for other finance roles when necessary and appropriate.


Your role will be subject to a DBS check


Key Requirements:

The successful candidate will be AAT qualified (part qualified considered) or qualified by experience. Good communication skills are required to liaise with the rest of the finance team and the various members of staff in the wider organisation. The successful candidate will also be comfortable with Microsoft Office, especially Excel, and will have experience of using financial software.


What’s in it for you?

  • 25 days of annual leave plus bank holiday, based on a 35-hour week, pro rata for part time.Enhanced pension scheme – different to security
  • Enhanced maternity, paternity, adoption, and shared parental leave (subject to length of service)
  • Health cash plan: receive money towards dental and optical care, complimentary treatments such as chiropractic, osteopathic and acupuncture treatments.
  • Medical Assistance membership which includes remote access to GP, counselling, and physiotherapy sessions
  • Employee assistance programmes which include access to support services for legal, financial, and family concerns
  • Life assurance of 4x annual salary.
  • Opportunity to apply for tickets to productions
  • CLWB – Our employee social group
  • NEWID – our Equality, Diversity, and Inclusion networking group who meet monthly to discuss new ideas and training opportunities to improve all aspects of employment at WMC.
  • Free access to learn Welsh online
  • £5 all-day parking available on working and non-working days.
  • 35-hour working week including a flexitime policy to assist with varying start and finish times around personal commitments (and operational needs)

 

At Wales Millennium Centre, our commitment to diversity and inclusion goes beyond words; it is a fundamental aspect that guides our actions. Adhering to the principles outlined in Section 158 of the Equality Act 2010, we actively embrace positive action in our recruitment and selection processes. Recognising the underrepresentation of specific groups, particularly individuals with disabilities, and those from Black, Asian, and ethnically diverse backgrounds, within our workforce, we have implemented proactive measures to address this disparity.

Through our positive action approach, applicants of our advertised roles from these underrepresented groups, meeting the minimum criteria detailed in the role profile, will be shortlisted for interview selection. Our commitment extends beyond meeting legal obligations; we aspire to cultivate a workplace that authentically embraces the rich diversity of our global society.

More Information

Share this job
Email Me Jobs Like These
Showing 1–0 of 0 jobs

Accessibility

Company Search

Job Search

Company Search

Login/Register

Login

Register


Contact

Stay connected!