Stage Technician 15 views

Wales Millennium CentreNi yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg

Teitl y Rôl: Technegydd Llwyfan

Cyflog: £28500 yn codi i £29500 ar ôl cwblhau setiau sgiliau ar ddiwedd chwe mis

Dyddiad Cau: 24/12/2024

 

Amdanom ni/Ein Hadran:

Canolfan Mileniwm Cymru yw canolfan gelfyddydau fwyaf Cymru. Wedi’i lleoli ym Mae Caerdydd, mae’n croesawu artistiaid a chynyrchiadau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae llwyddiant CMC yn ddibynnol i raddau helaeth ar ddarpariaeth ei gwasanaethau technegol a’r defnydd o’i chyfleusterau o safon fyd-eang. Rydym yn chwilio am Dechnegydd i ymuno â ni a pharhau â’n llwyddiant.

Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:

-Fel rhan o dîm o 15 o staff technegol byddwch yn gweithio ar y cynyrchiadau teithiol mwyaf yn y DU. Wedi’i seilio’n bennaf ar Lwyfan Donald Gordon, theatr sydd ag 1900 o seddau, bydd y rôl yn hwyluso’r broses o symud sioeau cerdd, opera, dawns a chomedi i mewn ac allan, a’u rhedeg.

-Mae CMC hefyd yn gartref i ddau leoliad arall, sef theatr stiwdio gyda 250 o seddi a lleoliad cabaret gyda 120 o seddi. O bryd i’w gilydd rydym yn gweithio ar gynyrchiadau a digwyddiadau eraill sydd yn cael eu cynnal yn y lleoliadau hyn.

-Mae’r rôl yn atebol i’r Rheolwr Technegol (trydan).-Mae’r oriau gwaith yn seiliedig ar wythnos waith o 38.5 awr ar gyfartaledd ac yn hyblyg yn unol â galw sioeau.


Gofynion Allweddol:

-Yn hunan-gymhellol iawn gyda’r gallu i weithio’n dda o fewn tîm.

-Y gallu i weithio oriau anghymdeithasol, gan gynnwys dros nos, penwythnosau a Gwyliau Banc.

-Arbenigo mewn Llwyfan/Flys yn ogystal â bod yn barod i weithio mewn adrannau llwyfan eraill pan fo angen.


Beth Sydd Ynddo i Chi?

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos waith 35 awr, pro rata ar gyfer oriau rhan amser.
  • Cynllun pensiwn sydd yn uwch na’r statudol
  • Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
  • Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
  • Aelodaeth Cymorth Feddygol sy’n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
  • Rhaglenni cymorth i weithwyr sy’n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
  • Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
  • Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
  • CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
  • NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.

Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.

Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o’r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy’n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.

———————————————————————————————————————————————————————————————————————————————————————–

We are Wales Millennium Centre – Fire for the Imagination

Role Title: Stage Technician

Salary: £ 28500 rising to £29500 on completion of skill sets after six months

Closing Date: 24/12/2024


About WMC/Our Department:

Wales millennium Centre is the largest arts centre in Wales, situated in Cardiff Bay it plays host to National and international artists and productions. Much of the success of WMC is due to its delivery of technical services and the use of its world class facilities. We have an opening for a technician, and we are looking for a colleague to join and continue our success.


About the Role and Responsibilities:

-As part of a team of 15 technical staff you will work on the largest touring productions in the UK. Primarily based on the Donald Gordon Stage with its 1900 seat capacity, the role will facilitate the get in, get out, and show running of musicals, opera, Dance & comedy.

-WMC is also home to two other venues, a 250 seat studio theatre and a 120 seat cabaret venue. Occasionally we work on productions and other events taking place in these venues.

-Role Reports to the technical manager (electrics)

-Hours are worked on and average 38.5 hour working week and flexible according to show demand.


Key Requirements:

-Be highly self-motivated and able to work well in a team environment.

-Ability to work unsociable hours, including over-night, weekends and Bank Holidays

-Specialise in Stage/Flys as well as being willing to work in other stage departments when required.


What’s in it for you?

  • 25 days of annual leave plus bank holiday, based on a 35-hour week, pro rata for part time. Enhanced pension scheme
  • Enhanced maternity, paternity, adoption, and shared parental leave (subject to length of service)
  • Health cash plan: receive money towards dental and optical care, complimentary treatments such as chiropractic, osteopathic and acupuncture treatments.
  • Medical Assistance membership which includes remote access to GP, counselling, and physiotherapy sessions
  • Employee assistance programmes which include access to support services for legal, financial, and family concerns
  • Life assurance of 4x annual salary.
  • Opportunity to apply for tickets to productions
  • CLWB – Our employee social group
  • NEWID – our Equality, Diversity, and Inclusion networking group who meet monthly to discuss new ideas and training opportunities to improve all aspects of employment at WMC.
  • Free access to learn Welsh online
  • £5 all-day parking available on working and non-working days.

At Wales Millennium Centre, our commitment to diversity and inclusion goes beyond words; it is a fundamental aspect that guides our actions. Adhering to the principles outlined in Section 158 of the Equality Act 2010, we actively embrace positive action in our recruitment and selection processes. Recognising the underrepresentation of specific groups, particularly individuals with disabilities, and those from Black, Asian, and ethnically diverse backgrounds, within our workforce, we have implemented proactive measures to address this disparity.

Through our positive action approach, applicants of our advertised roles from these underrepresented groups, meeting the minimum criteria detailed in the role profile, will be shortlisted for interview selection. Our commitment extends beyond meeting legal obligations; we aspire to cultivate a workplace that authentically embraces the rich diversity of our global society.

More Information

Share this job
Email Me Jobs Like These
Showing 1–0 of 0 jobs

Accessibility

Company Search

Job Search

Company Search

Login/Register

Login

Register


Contact

Stay connected!